Mae dyn yn ei arddegau wedi cael ei ddedfrydu i gyfnod dan glo, wedi iddo ymddangos yn Llys y Goron Leeds heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 19).

Mae Jack Coulson, 19, wedi’i gael yn euog yn y gorffennol o greu dyfais ffrwydrol yn ei ystafell wely. Y tro hwn, mae wedi’i gael yn euog o fod â dogfen frawychol yn ei feddiant a allai gael ei defnyddio i gyflawni trosedd frawychol.

Mae wedi’i ddefrydu i dreulio pedair blynedd ac wyth mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.