Mae’r Deyrnas Unedig yn barod i adael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen – oni bai fod popeth yn berffaith.

Dyna y mae gweision sifil San Steffan yn ei ddweud wrth Aelodau Seneddol. Ac er y byddai “canlyniadau ofnadwy” i sefyllfa lle y byddai’r trafodaethau’n chwalu yn llwyr, mae’n gwbwl bosib.

A dyma pam y mae Theresa May wedi gorchymyn i swyddogion lunio cynllun ar gyfer “Brexit heb fargen”.

Mynnodd uwch swyddogion San Steffan y byddai’r Deyrnas Unedig yn gallu ymdopi pe bai gadael Ewrop yn digwydd ar Fawrth 29 y flwyddyn nesaf, heb gytundeb ffurfol gyda Brwsel.

“Byddwn ni’n barod am unrhyw fargen Brexit. Ni fydd popeth yn berffaith,” meddai Prif Weithredwr y Gwasanaeth Sifil, John Manzoni, wrth Aelodau Seneddol.

“Mae’r Deyrnas Unedig yn gwneud popeth o fewn ei gallu,” meddai, ond ei bod hi’n anodd penderfynu sut y bydd “pobol eraill” – hynny yw, aelodau eraill o’r Undeb, llywodraethau datganoldeig a chwmnïau a busnesau – yn yamteb.

“Mae’n anodd gwybod p’un ai fyddan nhw’n ymddwyn yn faleisus neu’n anwybodus,” meddai wedyn.