Fe fydd Ysgrifennydd Brexit newydd llywodeaeth Prydain yn cynnal trafodaethau â phrif drafodwr Ewrop yn ddiweddarach heddiw.

Cafodd Dominic Raab ei ddyrchafu i’r swydd yn sgil ymddiswyddiad David Davis, a dyma fydd ei gyfarfod cyntaf â Michel Barnier.

Daw’r cyfarfod yn sgil wythnos dymhestlog yn San Steffan, ac wrth i bryderon ddwysáu ar y cyfandir.

Bellach mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn galw ar aelodau’r undeb i baratoi ar gyfer Brexit heb ddêl, ac mae papur sy’n amlinellu’r rhybudd hwnnw wedi dod i law’r wasg.

Mae’r ddogfen yn rhybuddio y gallai Brexit heb ddêl gael effaith sylweddol ar fusnesau a dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mae’n cynghori gwledydd yr undeb i roi trefniadau yn eu lle, rhag ofn bod gwledydd Prydain yn gadael heb daro bargen.

Dogfennau

Mae Dominic Raab hefyd yn bwriadu rhyddhau deunydd, yn ôl adroddiadau, a fydd yn cynnig cyngor ynglŷn â sut i ddelio â Brexit.

Bydd 70 dogfen yn cael eu cyhoeddi, ac mi fyddan nhw wedi’u targedu at y cyhoedd a busnesau.