Mae cyn-Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson wedi galw am “Brydain fyd-eang” ac am gefnu ar gynlluniau “diflas” ar gyfer perthynas agos â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin heddiw yn dilyn ei ymddiswyddiad ddydd Llun diwethaf, wnaeth Boris Johnson ddim crybwyll herio Theresa May fel Prif Weinidog nac fel arweinydd y Ceidwadwyr.

Ond fe laddodd ar y cynlluniau Brexit a gafodd eu hamlinellu mewn Papur Gwyn yr wythnos ddiwethaf, gan ddweud eu bod yn cyfateb i “Brexit mewn enw yn unig”.

Ac fe ategodd yr alwad am adael yr undeb tollau a’r farchnad sengl yn gyfangwbl, ac am geisio cytundebau masnach yng ngweddill y byd.

‘Hunanamheuaeth’

Fe gyhuddodd Boris Johnson Lywodraeth Prydain o “din-droi” ar y trafodaethau Brexit, gan ddweud bod “cwmwl o hunanamheuaeth” dros Theresa May a’i safbwynt ynghylch yr Undeb Ewropeaidd ers y llynedd.

Mewn datganiad a barodd ddeuddeg munud, dywedodd: “Nid yw’n rhy hwyr i achub Brexit.

“Mae gennym amser yn y trafodaethau hyn. Rydym wedi newid cyfeiriad unwaith a gallwn newid eto.

“Nid methu â chyflwyno achos tros gytundeb masnach rydd o’r math a gafodd ei amlinellu yn Nhŷ Lancaster mo’r broblem. Dydyn ni ddim hyd yn oed wedi trio.

“Rhaid i ni drio nawr oherwydd ni fyddwn yn cael cyfle arall i wneud hyn yn iawn.”