Mae barnwyr sydd wedi bod yn clywed apêl yn erbyn carcharu arweinydd yr EDL, Tommy Robinson wedi gohirio eu penderfyniad, gan ddweud eu bod yn disgwyl gwneud cyhoeddiad cyn diwedd y mis.

Mae e wedi’i garcharu am 13 mis am ddirmyg llys ar ôl ffilmio tystion y tu allan i lys yn dilyn gwrandawiad, a chyhoeddi’r fideo ar y we. Cafodd ei wylio dros 250,000 o weithiau ar Facebook.

Cafodd ei arestio y tu allan i Lys y Goron Leeds ym mis Mai a hynny am yr ail waith ar ôl osgoi mynd i’r carchar am drosedd debyg fis Mai y llynedd. Cafodd e ddedfryd ohiriedig bryd hynny.

Fe safodd ei brawf o dan ei enw go iawn, Stephen Christopher Yaxley-Lennon, a’i garcharu am ddeg mis, gyda thri mis ychwanegol am dorri amodau gorchymyn blaenorol.

Clywodd benderfyniad y barnwyr ynghylch ei apêl drwy gyswllt fideo o’r carchar.