Mae gweinyddwyr am gau 40 yn rhagor o siopau Poundworld, sy’n golygu y bydd 531 o swyddi’n mynd.

Aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr Deloitte fis diwethaf, a dydyn nhw ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i berchennog newydd. Ond mae’r trafodaethau hynny’n parhau am y tro.

Fe fydd y siopau dan sylw’n cau ar Orffennaf 24.

Mae’r gweinyddwyr wedi diolch i staff y cwmni am eu “cefnogaeth ac ymrwymiad parhaus yn ystod y cyfnod anodd hwn”.

Cefndir

Daeth cadarnhad ddechrau’r mis y byddai 105 o siopau’n cau i gyd, gan effeithio ar 1,200 o swyddi.

Mae Deloitte eisoes wedi gwrthod cynnig i brynu Poundworld gan ei sylfaenydd Chris Edwards, oedd yn gobeithio achub hyd at 3,000 o swyddi.

Cafodd y cwmni ei sefydlu ganddo yn 1974, ac mae e wedi beirniadu’r modd y gwnaeth Deloitte ymdrin â’i gynnig, gan ddweud ei fod e “wedi synnu”.

Roedd lle i gredu am gyfnod hefyd y byddai sylfaenydd Poundland, Steven Smith yn gwneud cynnig i brynu rhan o’r cwmni.

Mae 100 o bobol wedi colli’u swyddi ym mhencadlys Poundworld yng Ngorllewin Swydd Efrog.