Mae’r cyn-Ysgrifennydd Addysg,  Justine Greening, wedi beirniadu cytundeb Brexit y Prif Weinidog, gan alw am ail refferendwm.

Mewn erthygl yn The Times mae’r cyn-weinidog yn dweud bod cynlluniau Theresa May yn cynnig y “gwaethaf o’r ddau fyd”.

Ac mae’n nodi mai’r cyhoedd, yn y pendraw, ddylai benderfynu ar drywydd Brexit, nid “gwleidyddion digyfaddawd”.

Mae yna dri opsiwn ar gyfer Brexit, meddai, sef cytundeb y Prif Weinidog, aros yn yr Undeb Ewropeaidd, neu adael heb gytundeb.

Pleidleisiodd Justine Greening tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mi ymddiswyddodd o’r cabinet ym mis Ionawr, gan wrthod cynnig am rôl Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.

Cynlluniau

Bellach mae Theresa May wedi cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer dyfodol y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.

Byddai gwledydd Prydain yn parhau i gydymffurfio â rheolau Ewropeaidd dan y cynlluniau yma, ac mae hynny wedi cythruddo sawl aelod o’i phlaid ei hun.

Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio tros gyfres o welliannau i’w chynlluniau ddydd Llun (Gorffennaf 16), ac mae disgwyl peth gwrthryfela ar feinciau’r Ceidwadwyr.