Mae dyn 28 oed wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn dilyn digwyddiad yn Birmingham.

Mae dyn 54 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn oriau man fore heddiw.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo am 1.40yb, lle daethon nhw o hyd i’r ddau ddyn mewn cyflwr difrifol.

Bu farw’r dyn 28 oed mewn ambiwlans.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ond dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.