Mae un o weinidogion San Steffan wedi ymddiswyddo ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi anfon llu o negeseuon rhywiol at ddynes 28 oed dros gyfnod o dair wythnos.

Anfonodd Andrew Griffiths, y Gweinidog Busnesau Bychain, dros 2,000 o negeseuon testun at y ddynes a’i ffrind lle’r oedd yn awgrymu rhentu fflat er mwyn cwrdd am ryw, ac fe wnaeth e ofyn iddyn nhw am luniau anweddus ohonyn nhw eu hunain.

Yn ôl y Sunday Mirror, fe gyfeiriodd ato fe ei hun yn y negeseuon fel ‘Dadi’.

Ymddiswyddodd e nos Wener, gan ddweud fod ganddo fe “gywilydd mawr” a’i fod yn ceisio “cymorth proffesiynol”.

Sylwadau’r ddynes

Yn ôl yr erthygl papur newydd, dywedodd y ddynes, Imogen Treharne mai “dim ond am ryw” yr oedd Andrew Griffiths eisiau siarad â hi.

“Ro’n i am iddo fe fod yn ddyn neis ond yn y pen draw, ro’n i’n teimlo’n frwnt.”

Mewn datganiad i’r Sunday Mirror, dywedodd Andrew Griffiths ei fod yn ymddiheuro “wrth bawb oedd wedi ymddiried ynof fi a phawb dw i wedi eu gadael i lawr mewn modd mor ofnadwy”.

Yn ôl Adran Fusnes San Steffan, ymddiswyddodd e am “resymau personol”, ac yntau wedi bod yn ei swydd ers 2010 ac yn Chwip ers 2016.