Mae dyfeisiadau ffrwydrol wedi cael eu taflu at gartrefi Gerry Adams ac aelod blaenllaw arall o Sinn Fein.

Fe wnaed difrod sylweddol i gerbyd y tu allan i dŷ Gerry Adams, ond dywed cyn-arweinydd Sinn Fein na chafodd neb eu hanafu.

Dywed Heddlu Gogledd Iwerddon, y PSNI, fod swyddogion “yn delio â dau ddigwyddiad mewn dau eiddo gwahanol yng ngorllewin Belfast”.

Er nad yw’r heddlu wedi priodoli cyfrifoldeb ar neb, mae’n debygol fod yr ymosodiadau’n waith gweriniaethwyr sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Sinn Fein yn diystyru’r grwpiau hyn fel gangiau o droseddwyr sy’n cymryd arnynt eu bod yn weriniaethwyr.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau yng ngorllewin Belfast neithiwr ar ôl chwe noson o ddigwyddiadau treisgar yng nghymdogaeth Bogside o Derry.