Mae Donald Trump wedi rhybuddio Theresa May y bydd ei chynllun Brexit yn “lladd” unrhyw gytundeb masnach rhwng Prydain a’r Unol Daleithiau.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd The Sun, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau y bydd y cynllun Brexit yn gosod y Deyrnas Unedig yn rhy agos at yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’n dweud hefyd y bydd y trafodaethau ar Brexit wedi mynd yn “hollol wahanol” pe bai ef wedi bod yn gyfrifol amdanyn nhw, ac mae’n honni bod y Prif Weinidog ddim wedi gwrando ar ei gyngor.

“Os ydyn nhw am wneud cytundeb fel yna, bydd rhaid i ni ddelio â’r Undeb Ewropeaidd yn lle delio â’r Deyrnas Unedig, felly bydd hynny fwy na thebyg yn lladd y cytundeb,” meddai Donald Trump wrth The Sun.

“Os ydyn nhw’n gwneud hynny, yna ni fydd cytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau yn cael ei wneud.”

Boris Johnson – “Prif Weinidog da”

Daw’r sylwadau hyn yn dilyn cinio fawreddog a gafodd ei chynnal i’r Arlywydd gan Theresa May ym Mhalas Blenheim.

Yn yr un cyfweliad, fe ddywedodd yr Arlywydd ei fod yn credu y bydd Boris Johnson yn gwneud “Prif Weinidog da”.

Mae’n “gynrychiolydd arbennig i’ch gwlad,” meddai ymhellach, ac mae’n mynnu ei fod wedi ei “hoffi erioed”.

“Dw i ddim yn gosod un yn erbyn y llall. Dw i ond yn dweud bod ganddo’r gallu i fod yn Brif Weinidog da.

“Dw i’n meddwl bod ganddo’r hyn sydd ei angen.”

Fe fydd Donald Trump yn ymweld a Chequers gyda’r Prif Weinidog heddiw.

Yr ymweliad

 Mae Donald Trump ar hyn o bryd ar ymweliad pedwar diwrnod â’r Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl i’r Arlywydd gyfarfod a’r Frenhines heddiw ym Mhalas Windsor, cyn teithio i’r Alban dros y penwythnos i chwarae golff.

Mae miloedd wedi ymgasglu mewn dinasoedd ledled y Deyrnas Unedig i brotestio yn erbyn yr ymweliad, gyda phrotestiadau’n digwydd yng Nghaerdydd ac Abertawe.