Mae dau ddeifiwr a fu’n rhan o’r ymdrech i achub grŵp o fechgyn a’u hyfforddwr pêl-droed o ogof yng Ngwlad Thai, bellach wedi dychwelyd i wledydd Prydain.

Mae John Volanthen a Rick Stanton yn aelodau o Dîm Achub Ogof De a Chanolbarth Cymru, ac yn cael eu cyfri’ ymysg deifwyr gorau’r byd.

Fe gawson nhw eu galw i Wlad Thai ar ôl i ddwsin o fechgyn a’u hyfforddwr fynd yn sownd mewn ogof yn nhalaith ogleddol Chiang Rai.

Mae’r bechgyn bellach wedi’u hachub ac yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ar ôl bod yn sownd yn yr ogof am fwy na phythefnos.

“Nid arwyr ydym ni”

Ar ôl glanio ym maes awyr Heathrow y bore yma (dydd Iau, Gorffennaf 12), dywedodd John Volanthen fod sicrhau bod y bechgyn wedi’u hachub ar ôl 18 diwrnod yn “rhyddhad”.

“Roeddwn yn hynod falch ac yn teimlo rhyddhad mawr wrth weld pob un ohonyn nhw’n fyw, ond ar yr adeg honno fe wnaethom ni sylwi anferthedd y sefyllfa a dyna, o bosib, oedd y rheswm pam ei bod hi wedi cymryd mor hir i’w cael i gyd allan,” meddai.

Ychwanegodd wedyn nad “arwyr ydym ni”, a bod yr hyn a wnaethom nhw “i’r gwrthwyneb”.

Mae John Volanthen, sydd yn ei 40au, yn ymgynghorydd Gwybodaeth Technoleg ym Mryste, tra bod Rick Stanton yn ymladdwr tân yn Coventry.