Mae disgwyl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, gyrraedd gwledydd Prydain heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 12), ar ei ymweliad swyddogol cynta’ â’r Deyrnas Unedig.

Yn dilyn cyfarfod tanllyd gydag aelodau NATO ym Mrwsel ddoe, mi fydd yr Arlywydd yn treulio’r pedwar diwrnod nesa’ yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n debyg y bydd yr ymweliad ei hun yn costio tua £10m i’r pwrs cyhoeddus.

Mi fydd y daith yn cychwyn gyda chinio grand ym Mhalas Blenheim heno, lle bydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn cyfarfod â Donald Trump a’i wraig, Melania.

Daw hyn ar ôl wythnos anodd i Theresa May, ac mae Donald Trump eisoes wedi disgrifio’r sefyllfa Llywodraeth Prydain, lle mae dau aelod blaenllaw o’r Cabinet wedi ymddiswyddo, yn “llanast”.

Ar ôl treulio’r noson gynta’ yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain, mi fydd Donald Trump yn ymuno â Theresa May unwaith eto er mwyn gwylio ymarfer milwrol sy’n cynnwys aelod o fyddin yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig.

Mi fydd y ddau hefyd yn cynnal trafodaethau yn Chequers – tŷ gwledig y Prif Weinidog – lle mae disgwyl i’r ddau drafod Rwsia, Brexit a’r Dwyrain Canol ymhlith materion eraill.

Ar ddiwedd hyn i gyd, mi fydd yr Arlywydd wedyn yn cyfarfod â’r Frenhines yng Nghastell Windsor, cyn teithio i’r Alban er mwyn chwarae golff.

Protestiadau

Mae disgwyl i gannoedd o brotestwyr ymgasglu ar strydoedd Llundain dros y dyddiau nesa’ er mwyn mynegi eu gwrthwynebiad i’r Arlywydd.

Bydd balŵn anferth o Donald Trump yn hedfan dros San Steffan hefyd, ar ôl i Faer Llundain, Sadiq Khan, roi caniatâd i’r digwyddiad fynd yn ei flaen.

Ond dim ond am noson y bydd Donald Trump yn treulio yn Llundain yn ystod ei ymweliad, felly mae disgwyl iddo golli’r rhan fwya’ o’r protestiadau.