Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Peter Carrington, a fu farw ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 10) yn 99 oed.
Yr Arglwydd Carrington oedd yr aelod olaf o Lywodraeth Winston Churchill ddechrau’r 1950au a oedd yn parhau ar dir y byw.
Mae’n cael ei gofio am ei ymddiswyddiad o Gabinet Margaret Thatcher yn 1982 ar ôl cymryd y bai am gychwyn Rhyfel y Malfinas.
Cyn hynny, fe gadeiriodd y trafodaethau yn Lancester House yn 1979 a arweiniodd at greu Zimbabwe.
Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y corff rhyngwladol, NATO, rhwng 1984 a 1988.
“Dyn hyfryd”
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad am ei farwolaeth, mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi dweud bod hyn yn “newyddion trist iawn”.
Mae David Liddington, y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet ac sy’n cynrychioli’r ardal lle roedd yr Arglwydd Carrington yn byw, wedi talu teyrnged i “yrfa a gafodd ei roi i wasanaeth cyhoeddus”.
Yn ôl y cyn-Brif Weinidog, David Cameron, roedd yr Arglwydd Carrington yn “ddyn hyfryd” ac yn “was cyhoeddus arbennig”.
Cyd-ddigwyddiad
Bu farw’r Arglwydd Carrington ar yr un diwrnod yr ymddiswyddodd Boris Johnson o’i swydd yn Ysgrifennydd Tramor a David Davis o fod yn Ysgrifennydd Brexit.
Dyma’r tro cynta’ i ddau aelod o’r cabinet ymddiswyddo o fewn yr un diwrnod ers 1982 – pan ymddiswyddodd yr Arglwydd Carrington a Humphrey Atkins.