Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi ymddiswyddo o’r Llywodraeth.

Daw hyn ychydig oriau’n unig ar ôl i’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, gyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo o Gabinet Theresa May oherwydd ei wrthwynebiad i bolisi’r Llywodraeth ar Brexit.

Yn ôl llefarydd ar ran Stryd Downing, mae’r Prif Weinidog wedi derbyn ymddiswyddiad Boris Johnson fel Ysgrifennydd Tramor.

Mi fydd cyhoeddiad am ei olynydd yn dod yn hwyrach yn y dydd.

Daw ymddiswyddiad Boris Johnson ychydig cyn i Theresa May annerch Ty’r Cyffredin ynglyn a’i chynllun Brexit newydd, sydd wedi cael ei feirniadu gan nifer o ASau Ceidwadol.

Mae’n rhoi pwysau ychwanegol ar y Prif Weinidog ac maen na ddyfalu y gallai wynebu her i’w harweinyddiaeth.

Roedd Boris Johnson wedi bod yn Ysgrifennydd Tramor ers mis Mehefin 2016.

 

Mwy i ddilyn.