Mae Nicola Sturgeon yn dweud ei bod hi’n her, ond nid yn amhosib, i’r ymgyrchwyr hynny sydd am gadw’r Deyrnas Unedig oddi fewn i’r Farchnad Sengl a’r undeb tollau yn dilyn Brexit.

Mae prif weinidog yr Alban yn dweud fod y cytundeb a luniwyd gan Theresa May a’i chabinet yn Chequers ddoe (dydd Gwener, Gorffennaf 6) yn gadael y drws yn agored ar gyfer Prydain sydd wedi’i chlymu’n agos at Ewrop.

Mae’r cynllun – sydd eto i dderbyn sêl bendith y 27 o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd – yn argymell creu ardal ‘UK-EU’ ar gyfer masnach rydd rhwng y ddau le, ac ardal a fyddai’n dilyn “yr un llyfr rheolau cyffredin”.

Yn y cyfamser, fe fyddai “cytundeb tollau” rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn cael gwared â’r angen am wirio a rheolaeth – yn hytrach, fe fyddai’r cytundeb yn drin y ddau le fel pe baen nhw’n “un diriogaeth o safbwynt tollau”.

“Mae yn y cytundeb yma fwy o realaeth nag yr ydan ni wedi’i weld gan lywodraeth Prydain cyn hyn,” meddai Nicola Sturgeon, wrth ymateb i ganlyniad y trafodaethau hirfaith yn Chequers. “Er hynny,” meddai wedyn, “dydan ni ddim yn cael gwybod llawer ganddyn nhw chwaith.”

“Yr hyn sy’n fy mhoeni i ydi fod y cynllun yn ymddangos fel bod llywodraeth Prydain yn dewis y rhannau gorau, y pethau y maen nhw’n eu hoffi am Ewrop, ac yn gwrthod y gweddill… Mae pethau’n fwy cymhleth na hynny, ac mi fydd gan yr Undeb Ewropeaidd lwyth o gwestiynau nad ydi’r cynllun hwn yn eu hateb.

“Ond, efallai mai’r prif bwynt ydi hyn – os mai dyma fydd man cychwyn y Deyrnas Unedig yn y trafodaethau, mae o’n sicr yn cynnig cyfle go iawn i’r rheiny sy’n dymuno gweld canlyniad sy’n cynnwys marchnad sengl gyflawn ac undeb tollau…”