Mae teithwyr wedi bod yn troi at y cyfryngau cymdeithasol i ddweud pa mor rhwystredig y maen nhw’n teimlo am yr oedi a’r gwasanaeth llawn dop yng ngorsaf drenau Victoria yn Llundain heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 5).

“Pam talu cannoedd o bunnoedd ychwanegol y flwyddyn i deithio ar Gatwick Express o Hassocks i Victoria, pan mae’r trenau yn aml yn orlawn ac yn cael eu canslo ar y munud olaf?” oedd un sylw ar Twitter.

Mae teithwyr eraill yn dweud fod problemau heddiw wedi eu gwneud yn hwyr i’r gwaith, ond nad oes neb yn fodlon cymryd cyfrifoldeb na gwneud yn iawn am hynny.

Mae eraill eto fyth yn ddig wedi iddyn nhw gyrraedd gorsafoedd cyn cael gwybod bod y gorsafoedd hynny wedi cau – er bod appiau rheilffordd yn dweud bod y gwasanaethau yn rhedeg fel arfer.