Mae canran y bobol ifanc yn eu harddegau sy’n gweithio am arian poced tra maen nhw’n astudio, yn dirywio, meddai arolwg o’r to sy’n cael ei alw’n ‘Genhedlaeth Z’.

Roedd tua 42% o fyfyrwyr 16 a 17 oed yn astudio ac yn gweithio ar yr un pryd ym 1997, ond mae wedi gostwng i ddim ond 18% yn 2014, yn ôl adroddiad gan Ipsos Mori.

Efallai bod y dirywiad tymor hir, sy’n dyddio cyn y dirwasgiad, yn golygu newid ymagwedd ymhlith Gen Z, gyda llai ohonyn nhw eisiau swyddi rhan-amser ac yn hytrach yn blaenoriaethu astudio, awgryma’r adroddiad.

Daw’r dadansoddiad wrth i’r hynaf o’r genhedlaeth a anwyd wedi 1996, droi’n oedolion, ac mae’n awgrymu eu bod yn ymddwyn yn well, yn fwy dibynadwy, ac yn llai materol na’u rhagflaenwyr.

Maen nhw hefyd yn agosach at eu rhoeni, gyda dwy ran o dair o blant yr ysgol uwchradd yn siarad â’u mam o leiaf unwaith yr wythnos am faterion pwysig – o’i gymharu â dim ond 51% yn 2001.