Mae ymgyrchwyr yng Ngogledd Iwerddon yn dweud bod sefyllfa ysgol Wyddeleg yn Fermanagh yn enghraifft arall o’r angen am Ddeddf Iaith Wyddeleg.

Mae mudiad Conradh na Gaeilge wedi galw am roi cefnogaeth frys i ysgol Bunscoil an Traonaigh, wrth i Adran Addysg y llywodraeth wynebu her gyfreithiol yn sgil y penderfyniad i beidio â symud yr ysgol i safle newydd.

Mae nifer plant yr ysgol wedi codi’n sylweddol o 12 yn 2004 i 60 erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.

Mae’r plant yn cael eu dysgu mewn adeiladau dros dro sy’n “cwympo’n ddarnau” – a rhai hyd yn oed yn cael eu dysgu yn ffreutur yr ysgol. Maen nhw’n gorfod chwarae ar ‘iard’ yr ysgol, sydd hefyd yn faes parcio.

Ddwy flynedd yn ôl, cafwyd sêl bendith i’r cynlluniau i symud o gyrion Lisnaskea i safle newydd ond dydy’r symud hwnnw ddim wedi digwydd.

Yn 2015, cytunodd y Gweinidog Addysg, John O’Dowd y gallai’r ysgol gael ei symud i safle hen ysgol arall ond roedd cryn oedi cyn i lywodraeth Stormont chwalu ddechrau’r flwyddyn ddiwethaf.

Bellach, mae’r Adran Addysg yn dweud y byddai symud yr ysgol yn rhy gostus ac mae un o rieni’r ysgol wedi bygwth dwyn achos yn erbyn yr adran yn yr Uchel Lys, sydd hefyd yn cael ei chyhuddo o dorri addewid i ddatblygu addysg yn yr iaith Wyddeleg.

Ymateb ymgyrchwyr

Dywed llefarydd ar ran ymgyrchwyr Conradh na Gaeilge fod gwrthod symud yr ysgol yn “un o linell hir o benderfyniadau gan weinidogion y DUP i ymosod ar yr iaith Wyddeleg ac addysg yn yr iaith Wyddeleg”.

Ychwanegodd fod gweithredoedd gweinidogion yn groes i weithredoedd yr ymgyrchwyr, “sydd wedi ymgyrchu a lobïo yn hollol agored, ac wedi mynd trwy’r holl sianeli cyfreithiol cywir”.

“Nid yw’n ormod i ofyn am gael cadw at y gyfraith a pholisïau’r adran ei hun. Rhaid pwysleisio hefyd, fodd bynnag, fod yna ddigon o dir i fodloni’r holl bartneriaid.

“Rhaid datrys y sefyllfa hon cyn gynted â phosib a datblygu Bunscoil an Traonaigh ar y safle a gytunwyd , heb ragor o oedi.”

Methiannau

Dywed llefarydd ar ran Conradh na Gaeilge fod y mater hwn yn codi nifer o “fethiannau”.

“Rhaid i bob ochr weithredu nawr er lles y bobol ifanc sy’n mynd i Bunscoil an Traonaigh, sydd wedi cael eu hamddifadu ar y cyrion am lawer rhy hir.

“Ni all y patrwm hwn o ymosod ar y gymuned Wyddeleg barhau na chael ei dderbyn. Yr ymosodiadau hyn a’r penderfyniadau i wahaniaethu sydd wedi cryfhau’r ymgyrch tros Ddeddf Iaith Wyddeleg.

“Dylid amddiffyn yr iaith ar unwaith drwy ddeddfwriaeth a hawliau ar gyfer yr iaith fel sydd gan eraill ar draws yr ynysoedd hyn.”