Mae adroddiadau’n awgrymu bydd ‘Vote Leave’ – yr ymgyrch Brexit swyddogol yn ystod y refferendwm – cael eu dyfarnu’n euog o dorri rheolau etholiadol.

Mae’n debyg bod ymchwiliad gan y Comisiwn Etholiadol, wedi dod i’r casgliad bod yr ymgyrch wedi gorwario, ac wedi rhoddi arian i rywun na ddylai fod wedi derbyn y swm.

Ond mae cyn-Prif Weithredwr Vote Leave, Matthew Elliott, wedi gwrthod casgliadau’r corff – er nad ydyn nhw wedi’u cyhoeddi eto.

Dyw’r Comisiwn Etholiadol ddim wedi gwrando ar safbwynt yr ymgyrch, ac maen nhw wedi “sathru ar gyfiawnder naturiol”, meddai ef.

Mae’r corff wedi ymateb trwy nodi bod penderfyniad y ffigwr i ymateb yn gyhoeddus i fersiwn drafft o’r adroddiad yn “gam anarferol”.

Honiadau

Mae’r ymgyrch Brexit yn wynebu honiadau yn eu bod wedi rhoddi £680,000 i ymgyrch arall o’r enw ‘BeLeave’.

Yr honiad yw bod yr arian Vote Leave wedi elwa o’r buddsoddiad hwnnw.