Mae’r heddlu wedi cyhoeddi “ymchwiliad mawr” yn Wiltshire, yn dilyn amheuon fod dau o bobol wedi dod i gysylltiad â sylwedd anhysbys yn Amesbury.

Mae dyn a dynes, y ddau yn eu 40au, mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty Ardal Salisbury.

Dyw hi ddim yn glir eto, meddai Heddlu Wiltshire, os oes trosedd wedi’i chyflawni ai peidio, er bod sawl ardal yn Amesbury a Salisbury wedi’u cau i ffwrdd, rhag ofn.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r dyn a’r ddynes yn anymwybodol mewn cyfeiriad yn Amesbury nos Sadwrn. Y gred wreiddiol oedd eu bod wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon.