Mae pobol ifanc yn cefnu ar sigaréts. Dyna yw awgrym yr ystadegau diweddara’ ar y mater.

Y llynedd, roedd 17.8% o bobol rhwng 18 a 24 oed yng ngwledydd Prydain yn ysmygu – mae hynny’n dipyn o ostyngiad o gymharu â 2011, pan roedd dros chwarter (25.7%) pobol ifanc yn tanio.

Dyma’r cwymp mwyaf yn y ffigwr ers blynyddoedd.

Yn ogystal, mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau yn dangos bod pobol o bob oedran yn cefnu ar sigarennau.

Yn 2016 roedd 15.6% o oedolion yn ysmygu, ond yn 2017 mi ddisgynnodd y ffigwr i 15.1%.

Mae Gwasanaeth Prydeinig yr Ysgyfaint wedi croesawu’r ystadegau gan ddweud eu bod yn “calonogol”. Ond, mae’r corff hefyd wedi dweud “na ddylwn fodloni â nhw”.