Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wedi galw am “newid radical” i ddiwylliant a pholisïau’r Swyddfa Gartref, yn sgil sgandal Windrush.

Mae adroddiad gan Bwyllgor Dethol Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin (HASC) yn codi pryderon am  agwedd “ymosodol” yr adran hon tuag at fewnfudwyr.

Ac mae’r pwyllgor yn rhybuddio y gallai sefyllfa debyg i sgandal Windrush ddigwydd unwaith eto.

Yn benodol mae’r pwyllgor yn tynnu sylw at ddinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig, a’n pryderu am ei statws wedi Brexit.

“Dadrithio”

“Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref [Sajid Javid] llawer o waith i’w wneud tan fod gan y Deyrnas Unedig sustem mewnfudo drugarog a theg,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Yvette Cooper.

“Mae cenhedlaeth Windrush, a gyfrannodd cymaint i Brydain, wedi’u dadrithio’n llwyr. Mae gan y Swyddfa Gartref gyfrifoldeb i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

“Yng ngeiriau Paulette Wilson – dynes a chafodd ei chadw yn y ddalfa, ac oedd yn wynebu cael ei alltudio – ‘D’ych chi’n methu parhau i drin pobol fel hyn’.”

Windrush?

Cenhedlaeth Windrush yw’r enw a rhoddir i’r bobol a gyrhaeddodd wledydd Prydain o’r Caribî, ar gwch o’r enw hwnnw yn 1948.

Yn ddinasyddion o’r Gymanwlad, roedd ganddyn nhw’r hawl i aros yn y Deyrnas Unedig.

Ond, bellach mae wedi dod i’r amlwg bod rhai o’r unigolion yma wedi cael eu hanfon o’r wlad, ac wedi cael eu herio heb reswm gan y Llywodraeth.