Mae cyn-arweinydd y Blaid Geidwadol, William Hague, wedi rhybuddio aelodau ei blaid ei hun yn dilyn diwrnod o ffraeo mewnol yn San Steffan.

Ymhlith rhengoedd y Ceidwadwyr sy’n gefnogol o Brexit, mae yna bryder cynyddol am allu’r Prif Weinidog, Theresa May, i gyflawni ‘Brexit caled’, ac mae sïon yn dew bod cefnogwyr Brexit y blaid wrthi’n cynllwynio yn erbyn eu harweinydd.

Ond, mewn i The Daily Telegraph, mae William Hague wedi rhybuddio’i gyd-Geidwadwyr rhag herio’r arweinyddiaeth neu wrthryfela.

Yn ogystal, mae’r ffigwr yn nodi na ddylai cefnogwyr Brexit y blaid “wthio’n rhy galed”. Ac mae’n dweud mai’r opsiynau sydd ganddyn nhw yw cyfaddawdu, neu dderbyn “Brexit gwannach”.

Ffraeo

Daw sylwadau William Hague yn dilyn diwrnod o ffraeo, a gafodd ei danio gan yr Aelod Seneddol, Jacob Rees-Mogg.

Fe rybuddiodd Theresa May rhag cefnu ar Brexit, gan ennyn ymateb chwyrn gan aelodau eraill o’i blaid – cafodd ei gyhuddo o fod yn “haerllug” ac o “danseilio” y Llywodraeth.