Mae sylfaenydd y cwmni Poundworld wedi beirniadu gweinyddwyr ei gwmni, gan honni eu bod nhw’n anwybyddu ei gais i achub miloedd o swyddi.

Yn ôl Chris Edwards, a sefydlodd Poundworld yn 1974, mae e eisiau achub tua 180 o siopau, gan arbed tua 3,000 o swyddi yn sgil hynny.

Ond mi ddywedodd mewn datganiad heddiw fod yr “holl broses gweinyddol wedi cael ei reoli’n wael.”

Mi gafodd Poundworld ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ddechrau’r mis diwetha’, gan beryglu tua 5,100 o swyddi.

Mae’r gweinyddwyr o gwmni Deloitte wedi bod yn chwilio am brynwr, ond maen nhw wedi methu hyd yn hyn ac wedi cychwyn ar gynllun i gau rhai siopau.

“Diffyg gweithredu”

“Mae’r broses wedi cymryd mor hir nes bod siopau bellach yn cynnal arwerthiannau i gau’r siop ac yn gwerthu stoc sydd ddim yn cael ei ail-brynu, felly, gyda phob diwrnod, mae’r dasg o achub y busnes yn mynd yn anoddach ac yn rhoi hoelen arall yn yr arch,” meddai Chris Edwards.

“Mae’n glir bod diffyg gweithredu gan y rheiny sy’n rhedeg y broses wedi peryglu mwy o swyddi, ond, pan wnes i godi pryderon ynglŷn â’r amserlen, maen nhw’n dweud mai eu blaenoriaeth yw’r credydwyr, felly mi fydd yn ddiddorol gweld faint o arian sy’n weddill ar ôl i’r gweinyddwyr gymryd eu ffioedd a’u cyflogau.”

Peryglu’r busnes

Mae Chris Edwards bellach wedi dod i gytundeb â’r cwmni bancio, Santander, wrth iddyn nhw gydweithio ar greu cynllun i achub y cwmni.

Mae hefyd yn dweud bod nifer o gyn-reolwyr y cwmni yn fodlon dychwelyd i’r busnes, ond bod angen i Deloitte weithredu’n fuan.

“Os nad oes dim yn digwydd o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf, mi fydd y busnes yn mynd i’r wal, sydd mor anffodus pan fod gennym ni’r awydd a’r modd o’i achub,” meddai.

Roedd y cwmni yn berchen i TPG Capital cyn cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar 11 Mehefin.