Mae’r ffraeo mewnol ymhlith y Torïaid wedi dwysáu, yn sgil sylwadau diweddaraf yr Aelod Seneddol, Jacob Rees-Mogg.

Bydd y Prif Weinidog, Theresa May, yn cyfarfod â’i chabinet yn ddiweddarach er mwyn trafod safiad y Llywodraeth tros fater penodol – y berthynas rhwng Prydain ag Ewrop wedi Brexit.

A gan fod tipyn o anghydfod tros y mater o fewn y cabinet, mae’n debyg bod Downing Street yn ystyried cynllun newydd i fodloni pawb – cynllun am drefniadau tollau.

Mae Jacob Rees-Mogg am weld y Deyrnas Unedig yn gadael y farchnad sengl a’r undeb dollau, ac wedi dweud ei fod yn “hyderus” bydd y Prif Weinidog yn gwireddu hynny.

Ond, mewn erthygl i The Daily Telegraph mae’r AS wedi rhybuddio Theresa May rhag cefnu ar Brexit caled, ac wedi galw arni i  “sefyll yn gadarn tros yr hyn mae hi ei hun wedi addo”.

Ymateb Ceidwadwyr

Mae’r erthygl wedi ennyn ymateb tanllyd gan Dorïaid sydd yn frwd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r gweinidog yn y Swyddfa Dramor, Syr Alan Duncan, wedi ei gyhuddo o fod yn “haerllug”, ac o “danseilio” y Llywodraeth a’r Blaid Geidwadol.

“Lleiafrif yw’r asgell dde ideolegol, er gwaetha’r holl sŵn,” meddai. “Dylen nhw dawelu.”

“Blacmel” yw sylwadau Jacob Rees-Morgan yn ôl yr Aelod Seneddol, Simon Hoare.