Mae gan y Gwasanaeth Iechyd “tipyn i’w wneud” os yw am gyrraedd safonau rhyngwladol, yn ôl arbenigwr.

Daw sylwadau’r Athro Chris Ham, sy’n brif weithredwr ar y cwmni melin drafod, The King’s Fund, ar drothwy pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd yn 70 oed.

Mae’n dweud bod angen i’r gwasanaeth “ennill tir” mewn nifer o feysydd, gan roi mwy o bwyslais gyflogi staff a gwella’r ddarpariaeth o ran diagnosis a thriniaethau.

“Ennill tir”

“Does dim angen i hyn i gyd gael ei wneud gan y Gwasanaeth Iechyd, ond mae angen iddo gael ei wneud mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai Chris Ham.

“Mae peth o hynny’n cynnwys triniaethau – felly os ydym ni am wneud rhywbeth ynglŷn â chyfradd goroesi canser a chyrraedd safonau’r gwledydd gorau yn y byd, mae angen buddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd o ran cyffuriau, staff ac offer ar gyfer diagnosis a thriniaeth.

“Rydym ni’n gwneud cynnydd o ran y gyfradd goroesi canser, gan leihau’r bwlch rhyngom a rhai o wledydd gorau yn y byd, ond dyw llymder yr wyth mlynedd diwethaf ddim wedi helpu.”

Ychwanegodd hefyd fod angen i Lywodraeth Prydain fod yn “realistig” wrth fuddsoddi mwy o arian yn y Gwasanaeth Iechyd, a bod gan awdurdodau lleol hefyd gyfrifoldeb dros gynnal y gwasanaeth.