Mae mwy na 20 injan dân yn parhau i fod ar safle rhostir Winter Hill ger Bolton yn Swydd Gaerhirfryn wrth i’r ymdrech i ddiffodd y tân ail-ddechrau bore ma.

Roedd diffoddwyr tân wedi aros yno dros nos wrth i’r tân “ddatblygu’n gyflym”.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaerhirfryn mae nifer y cerbydau tân ar y safle wedi cynyddu o 17 i 22.

Ddydd Sadwrn roedd dau dan fawr ar rostiroedd yn yr ardal wedi gwaethygu oherwydd y gwyntoedd.

Cafodd hofrenyddion eu defnyddio i geisio diffodd y tanau a gollwng dŵr ar goetiroedd cyfagos er mwyn ceisio atal y tân rhag lledu.

Mae’r Gwasanaeth Tân yn Swydd Gaerhirfryn hefyd wedi bod yn cael cymorth gan Wasanaeth Tân Manceinion sydd hefyd wedi bod yn ceisio diffodd tân ym mawndir Saddleworth a gynheuodd ar Fehefin 24.