Fe gyfrannodd y trethdalwr mwy o arian at goffrau’r Frenhines y llynedd, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

‘Grant y Sofran’ yw’r enw am y swm yma, ac mi gynyddodd o £42.8 miliwn i £45.7 miliwn, sy’n gyfwerth â 69c y flwyddyn i bob unigolyn yng ngwledydd Prydain.

Yn ogystal mi gynyddodd y swm a gafodd ei wario gan y frenhines y llynedd gan 13%.

Mi wariodd £47.4 miliwn y llynedd – £41.9 miliwn oedd y swm yn 2016 – a daw’r cynnydd yn rhannol oherwydd gwaith adnewyddu ar Balas Buckingham.

Nid yw’r gwaith adnewyddu yma ond newydd ddechrau, ac mae disgwyl iddo bara am ddegawd.

“Gwasanaethu”

“Mae tair cenhedlaeth o’r Teulu Brenhinol yn gweithio â’i gilydd i gefnogi’r frenhines,” meddai Syr Michael Stevens, gofalwr y Pwrs Cyfrin – hynny yw, cyfoeth y frenhines.

“Mae pob cenhedlaeth yn dod a’i steil, a’i phersonoliaeth. Yr hyn mae pawb yn rhannu, yw’r awydd i weld y frenhiniaeth yn adlewyrchu a’n gwasanaethu pob rhan o’r wlad a’r Gymanwlad.”