Mae adroddiad newydd gan arbenigwr ariannol yn awgrymu y gall hyd at 2,400 yn rhagor o ganghennau’r pum prif fanc ym Mhrydain gau.

Byddai hynny’n golygu y bydd y rhwydwaith presennol o fanciau Lloyds, RBS, NatWest, Barclays a HSBC yn cholli chwarter eu canghennau.

Mae 670 o ganghennau eisoes wedi cau eleni, ar ben 879 y llynedd.

“Does fawr o amheuaeth y bydd mwy o ganghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yn cau – mae hyn yn anochel gan fod y ffordd mae pobl yn rheoli eu harian yn newid,” meddai David Black, awdur yr adroddiad.

Mae’n awgrymu mai un ffordd o gadw mwy o ganghennau’n agored fyddai agor caffis neu siopau ynddyn nhw.