Mae Banc Lloegr wedi cael ei feirniadu ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod dau aelod o staff uwch wedi hawlio bron i £400,000 mewn costau teithio – gan gynnwys mwy nag £11,000 ar gyfer un daith awyr.

Ac fe wariodd y banc £100,000 ar barti i’w staff haf diwethaf.

Mae Donald Kohn ac Anil Kashyap yn aelodau o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr, ac mae eu costau teithio wedi cael eu cymharu â helynt treuliau Aelodau Seneddol San Steffan.

Fe ddaeth y ffigurau i’r amlwg ddydd Mawrth.

Mae’r ddau wedi’u lleoli yn yr Unol Daleithiau, ac fe hawliodd Anil Kashyap £11,084.89 am daith awyr o Chicago i Lundain – ffigwr a fyddai, yn ôl un o aelodau’r pwyllgor, yn achosi i’r cyhoedd fod yn “gegrwth”.

Hawliodd Donald Kohn £8,000 ar daith o Washington i Lundain a £469 ar deithiau tacsi ar gyfer un cyfarfod.

Mae Banc Lloegr yn cael ei ariannu’n rhannol gan drethdalwyr.

Cwestiynau’r costau

Yn dilyn yr helynt, cafodd cadeirydd llys Banc Lloegr, Bradley Fried ei holi am awr am y costau, wrth iddo geisio amddiffyn y swm. Dywedodd y dylid ystyried y costau yng nghyd-destun “sgiliau a chyfraniad” gweithwyr.

Fe ddaeth i’r amlwg hefyd fod £100,000 wedi cael ei wario ar barti i staff Banc Lloegr haf diwethaf – digwyddiad sydd wedi’i ddisgrifio gan un Aelod Seneddol fel “uffar o barti”.