Mae lefel y buddsoddiad yn y diwydiant ceir yng ngwledydd Prydain wedi haneru dros flwyddyn – a Brexit sy’n cael y bai.

Yn ôl Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Modur (SMMT), cafodd £347 miliwn ei glustnodi ar gyfer ceir a safleoedd newydd yn ystod hanner gyntaf y flwyddyn hon.

Mae hyn cryn dipyn yn llai na’r £647 miliwn a chafodd ei fuddsoddi yn ystod yr un cyfnod llynedd.

Mae’r SMMT yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i amddiffyn swyddi yn y sector, ac i gynnig rhagor o eglurder ynglŷn â pherthynas gwledydd Prydain ag Ewrop wedi Brexit.

“Dim cynlluniau credadwy”

“Mae ‘na rhwystredigaeth gynyddol mewn ystafelloedd cyfarfod ledled y byd, ynglŷn â pha mor araf mae proses y trafodaethau,” meddai’r Prif Weithredwr, Mike Hawkes.

“Mae safiad y Llywodraeth ar hyn o bryd yn tanseilio buddion diwydiant ceir y Deyrnas Unedig – diwydiant sydd wedi ffynnu o fod yn y farchnad sengl a’r undeb tollau.

“A does ‘na ddim cynlluniau credadwy wrth gefn, ar gyfer masnachu di-rwystr. Mae’r fasnach rhyngom ni a’r Undeb Ewropeaidd yn hynod o werthfawr.

“A dyw hi ddim yn realistig i ni ddisgwyl y bydd cytundebau â gweddill y byd yn cymharu â hynna.”

Cwmnïau

Mae cwmni BMW – sy’n cyflogi tua 8,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig – hefyd wedi cyfleu pryderon am ddyfodol y diwydiant wedi Brexit.

Ac mae eu huwch-gyfarwyddwr, Stephan Freismuth, wedi awgrymu y byddai’n rhaid iddyn nhw gau safleoedd yng ngwledydd Prydain, os fydd ‘na oedi wrth fewnforio o Fawrth 2019 ymlaen.

Daw hyn oll, wedi i gwmni Airbus rhybuddio y gallan nhw gefnu ar wledydd Prydain, wedi iddyn nhw adael yr Undeb Ewropeaidd.