Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn San Steffan wedi galw ar ei gyd-aelodau seneddol i gefnogi cynlluniau i ehangu Maes Awyr Heathrow.

Ar drothwy’r bleidlais ar y cynlluniau yn Nhŷ’r Cyffredin heno (dydd Llun, Mehefin 25), mae Chris Grayling wedi gofyn am gefnogaeth aelodau o bob plaid ar y “penderfyniad trafnidiaeth mwya’ mewn cenhedlaeth.”

Mae’n dweud y bydd creu trydydd llain glanio yn y maes awyr yn arwain at greu “miloedd o swyddi newydd”, ac yn galluogi’r Deyrnas Unedig i “ennill masnach ryngwladol newydd”.

“Dw i’n gobeithio y bydd fy nghydweithwyr ar draws y Tŷ yn rhoi unrhyw wahaniaethau pleidiol neu wleidyddol o’r neilltu er mwyn gwneud penderfyniad sydd er budd cenedlaethol hirdymor,” meddai.

Mae swyddogion y Llywodraeth yn dweud y bydd ehangu’r maes awyr yn creu tua 114,000 o swyddi yn ychwanegol o fewn yr ardal leol erbyn 2030.

Cynlluniau dadleuol

Daw’r alwad hon gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth wrth i’r cynlluniau achosi cryn ddadlau o fewn y prif bleidiau.

Mi fydd tipyn o sylw yn cael ei roi ar bresenoldeb, neu ddiffyg presenoldeb Boris Johnson yn ystod y bleidlais heno, sydd yn y gorffennol wedi bod yn wrthwynebus i’r syniad o ehangu’r maes awyr.

Mae nifer o’i gyd-aelodau yn y Blaid Geidwadol wedi galw ar yr Ysgrifennydd Tramor, sy’n cwrdd â gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd heddiw, i ymddiswyddo o’r Llywodraeth er mwyn bod yn rhydd i fynegi ei wrthwynebiad.

Mae’r Aelod Seneddol o Gymru, Stephen Crabb, ymhlith rhai o’i feirniaid, ac mi ddywedodd wrth BBC Radio 4 y bydd yn rhaid i Boris Johnson “edrych i fyw lygaid ei etholwyr ac esbonio ble’r oedd e ar noswaith y bleidlais ar Heathrow.”

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ar y llaw arall, wedi penderfynu rhoi pleidlais rydd i aelodau ei blaid ar y mater.

Mae nifer o undebau llafur yn gefnogol o’r cynlluniau, ond mae John McDonnell, aelod blaenllaw o gabinet yr wrthblaid, yn eu gwrthwynebu.