Mae miloedd o bobol sydd o blaid annibyniaeth i’r Alban wedi gorymdeithio i Bannockburn.
Dechreuodd y digwyddiad yn ardal Stirling, ac mae’n dilyn digwyddiadau tebyg yn Glasgow a Dumfries yn gynharach eleni.
Mae lle i gredu bod hyd at 8,000 o bobol wedi gorymdeithio i’r fan lle cipiodd Robert the Bruce fuddugoliaeth dros fyddin Edward II yn 1314.
Mae disgwyl gorymdeithiau tebyg yn Dundee a Chaeredin yn ddiweddarach eleni.