Mae Llywodraeth Prydain yn ystyried cyflwyno gwaharddiad ar werthu diodydd egni i blant fel rhan o gynlluniau i haneru lefelau gordewdra ymhlith plant erbyn 2030.

Ymhlith y mesurau eraill sy’n cael eu hystyried mae labelu gorfodol ar fwydlenni, rhoi’r gorau i werthu cynnyrch siwgr wrth y til mewn archfarchnadoedd a pheidio â dangos hysbysebion am fwydydd a diodydd siwgr tan ar ôl 9 o’r gloch y nos.

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r cynlluniau, ond wedi annog y llywodraeth i weithredu ar frys.

Ymateb

Yn ôl Gweinidog Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt, mae hi “bron yn amhosib” atal plant rhag cael mynediad i fwydydd a diodydd nad ydyn nhw’n iach.

Ond fe ddywedodd fod y llywodraeth wedi ymroi i sicrhau eu bod yn rhoi cefnogaeth i rieni “i wneud dewisiadau mwy iach”.

Ychwanegodd fod “cost gordewdra… yn rhy fawr i’w hanwybyddu”.