Mae Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson wedi galw ar y Prif Weinidog Theresa May i sicrhau “Brexit Prydeinig cyflawn” wrth i bryderon gynyddu y gallai hi gefnu ar y trafodaethau heb ddod i gytundeb.

Mae’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Dr Liam Fox wedi rhybuddio bod y pryder yn un go iawn, ond mae Ysgrifennydd Brexit, David Davis wedi dweud bod “tipyn yn digwydd” er mwyn osgoi sefyllfa lle gallai’r trafodaethau ddod i ben yn gynnar.

Yn ôl Boris Johnson, fydd pobol ddim yn derbyn “Brexit papur tŷ bach” sy’n “feddal, ildiol ac ymddangos yn eithriadol o hir”.

Daw negeseuon y gwleidyddion wrth i brotestwyr baratoi i orymdeithio i alw am refferendwm ar amodau’r ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd – ddwy flynedd ar ôl y refferendwm gwreiddiol.

Effaith Brexit

Mae ymchwil y Ganolfan Ddiwygio Ewropeaidd yn awgrymu bod Brexit eisoes wedi gwanhau economi’r DU o 2.1%.

Ac mae cwmni aerofod Airbus wedi rhybuddio y gallai ddod â gweithrediadau yng ngwledydd Prydain i ben pe na bai Llywodraeth Prydain yn llwyddo i ddod i gytundeb tros Brexit.

Dywedodd uwch is-lywydd y cwmni, Katherine Bennett: “Dydyn ni ddim yn gwneud bygythiadau gwag. Rydym wirioneddol o’r farn y byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus.”

Mae’r cyhoedd yn rhannu’r farn honno, yn ôl Boris Johnson.

Dywedodd mewn erthygl yn y Sun: “Ar draws y wlad, dw i’n dod ar draws pobol, sut bynnag y gwnaethon nhw bleidleisio ddwy flynedd yn ôl, sydd am fwrw ati a’i gwneud hi.

“Dydyn nhw ddim eisiau Brexit ffwrdd-â-hi. Dydyn nhw ddim am gael rhyw gyfaddawd anobeithiol, rhyw drefniant parhaus o dynnu a gwthio lle ry’n ni’n hanner aros a hanner gadael mewn tir na nog gwleidyddol – heb ragor o weinidogion o amgylch y bwrdd ym Mrwsel ond sy’n cael eu gorfodi i ufuddhau i gyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd.”

Gorymdaith

Mae disgwyl degau o filoedd o bobol mewn gorymdaith yn Llundain heddiw i alw am refferendwm ar yr amodau terfynol.

Bydd y protestwyr yn ymgynnull ger San Steffan, lle bydd siaradwyr yn cynnwys arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Vince Cable, y Gweinidog Ceidwadol Anna Soubry, David Lammy (Llafur) a chyd-arweinydd y Blaid Werdd, Caroline Lucas.