Mae hyd at naw cwmni bellach wedi dweud eu bod yn ystyried symud swyddi o wledydd Prydain yn sgil Brexit.

Cwmni Airbus, sy’n cyflogi 7,000 o bobol yng Nghymru, yw’r diweddaraf i ddweud ei fod yn ystyried gadael a mynd i gyfandir Ewrop wedi i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae rhestr y busnesau mawrion eraill sy’n meddwl gwneud yr un peth yn tyfu, a’r effaith ar Gymru yn ansicr.

Wyth cwmni arall

Mae Goldman Sachs yn ystyried dyblu maint ei swyddfa yn Frankfurt i 400 o staff ac mae HSBC yn bwriadu symud hyd at 1,000 o swyddi i Ffrainc.

Mae’n debygol y bydd tua 1,000 o swyddi JP Morgan yn Llundain yn symud i’r Undeb Ewropeaidd ac mae Bank of America Merrill Lynch yn symud 125 o swyddi i Ddulyn.

Ac mae banc Morgan Stanley yn meddwl creu cannoedd o swyddi yn Frankfurt a Paris.

Bydd cwmni hedfan EasyJet yn symud ei phencadlys o Luton i Fienna ar ôl ceisio am dystysgrif newydd yn Awstria i hedfan yn yr Undeb Ewropeaidd.

Tra ei fod yn dweud nad yw’r penderfyniad i wneud â Brexit, mae’r cawr o gwmni Unilever yn symud ei bencadlys i Rotterdam ac mae’r busnes Almaeneg, Siemens, wedi rhybuddio bod amser yn brin i sicrhau cytundeb ar adael yr Undeb Ewropeaidd.