Dyw’r Trysorlys ddim yn “elyn i Brexit”, ond rhaid cydnabod mai Ewrop yw partner masnach bwysicaf y Deyrnas Unedig.

Dyna oedd gan y Canghellor, Philip Hammond, i’w ddweud wrth annerch pwysigion y sector ariannol yn Llundain ddydd Iau (Mehefin 22).

Wrth draddodi ei araith flynyddol yn Mansion House mi ddywedodd y byddai’n “cefnogi ffyniant  pobol Prydain” wedi Brexit.

Ond, dywedodd hefyd y byddai’r Deyrnas Unedig yn parhau i “gydweithio a masnachu’n agos” â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl gadael.

Ac mi dynnodd sylw at yr hyn sy’n gyffredin rhwng  gwledydd Prydain ac Ewrop, gan gynnwys y “canrifoedd o hanes a diwylliant” y maen nhw’n rhannu.

Daw ei sylwadau wedi i’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, gael ei recordio yn galw’r Trysorlys yn “galon” yr ymgyrch tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Fe ddefnyddiodd ei araith hefyd i gadarnhau y bydd trethi’n gorfod codi er mwyn ariannu’r hwb ariannol i’r Gwasanaeth Iechyd.