Dyw hi ddim yn mynd i fod yn “fusnes fel arfer” yn Nhŷ’r Cyffredin o hyn ymlaen, yn dilyn protest yr SNP yno’r wythnos ddiwetha’.

Dyna yw addewid Ian Blackford, arweinydd y blaid yn San Steffan, yn sgil honiadau mai ymgais am sylw oedd y gwrthdystio.

Cafodd y gwleidydd ei wahardd o’r siambr ddydd Mercher (Mehefin 13), ar ôl mynnu bod yr Alban yn cael eu hanwybyddu ym mhroses Brexit.

Ac mi ymunodd pob un Aelod Seneddol SNP ag ef wrth adael.

“Mae’n hollol glir bod gyda ni frwdfrydedd go iawn,” meddai Ian Blackford. “Mae ein cyfeillion yn Llywodraeth yr Alban yn rhannu’r brwdfrydedd yna.

“Rhaid i San Steffan ddeall, nad ydyn ni’n medru derbyn yr hyn sy’n digwydd.”

Mesur Ymadael

Y Mesur Ymadael yw’r prif asgwrn cynnen rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r cenedlaetholwyr.

Mae’r SNP yn pryderu mai ymgais i gipio pŵer rhagddyn nhw yw’r ddeddfwriaeth Brexit hon, tra bod Llywodraeth San Steffan yn mynnu y bydd yn golygu “llawer mwy o bwerau” i’r Alban.

Dyw Llywodraeth yr Alban ddim wedi cydsynio i’r ddeddfwriaeth – gwrthododd yr Alban a phasio Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.