Mae’r Swyddfa Gartref wedi llwyr wrthod galwadau i gyfreithloni canabis.

Does “dim bwriad” gan y Llywodraeth i adolygu statws canabis – cyffur dosbarth B ar hyn o bryd – yn ôl yr adran lywodraethol.

“Bydd y cosbau am feddu ar ganabis, ei dyfu, neu ei ddelio, yn aros yr un fath,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref.

Daw hyn wedi i’r cyn-arweinydd Ceidwadol, yr Arglwydd William Hague, alw’r drefn sydd ohoni yn “hen ffasiwn”.

Yn ogystal mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, wedi galw am “newid trywydd”; ac mae’r Ceidwadwr, Tory Crispin Blunt, wedi galw ar y Swyddfa Gartref i “gamu o’r neilltu” tros y mater.

Mae’r sylwadau yma oll wedi’u hysgogi’n rhannol gan achos Billy Caldwell, llanc 12 blwydd oed a fu’n ddifrifol sâl wedi i’w ganabis meddygol – o Ganada – gael ei gymryd oddi wrtho