Mae cadwriaethwyr sy’n gyfrifol am brosiect adfer yr afanc yn dathlu ar ôl genedigaeth y cenawon cyntaf yng Nghernyw ers dros 400 mlynedd.

Roedd pâr o afancod wedi cael eu rhyddhau’r haf diwethaf mewn safle yn Ladock ger Truro, ac wedi bod wrthi’n brysur yn adeiladu nyth.

“Mae hyn yn garreg filltir wych i brosiect yr afanc yng Nghernyw,” meddai Frank Howie, cadeirydd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cernyw.

“Mae’n dangos bod yr afancod yn eu helfen a bod rheswm da iawn dros eu holl waith caled yn gwneud cartref newydd.”

Drwy adeiladu argaeau, mae afancod yn arafu llif dŵr mewn nentydd, a dywed naturiaethwyr y fod hyn yn fanteisiol i fywyd gwyllt, gan gynnwys ystlumod gan fod mwy o bryfed ar gael iddyn nhw eu bwyta.

Mae hefyd yn help ar gyfer lleihau llifogydd yn is i lawr yr afon – sy’n achosi problem gyson ym mhentref Ladock.