Mae cyflwynydd Question Time, David Dimbleby, wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’r neilltu.

Bydd yn cyflwyno’r rhaglen am y tro olaf ar Ragfyr 13, ac yn dychwelyd wedi hynny at ohebu.

“Erbyn diwedd y flwyddyn, bydda i wedi bod yn cadeirio Question Time am chwarter canrif,” meddai David Dimbleby sy’n 79 oed. “A dw i wedi penderfynu mai nawr yw’r adeg iawn i adael.”

“… Dw i ddim yn rhoi’r gorau i ddarlledu. Ond, wedi blynyddoedd o fod yn y stiwdio, dw i’n bwriadu dychwelyd at fy nghariad cyntaf: gohebu.”

Dechreuodd David Dimbleby gyflwyno’r rhaglen ar Ionawr 14, 1994, a does neb wedi treulio mwy o amser nag ef, wrth y llyw.

Ymhlith yr enwau sy’n cael eu crybwyll i’w olynu mae’r darlledwyr Huw Edwards, Kirsty Wark, Evan Davis, Emily Maitlis a Jeremy Vine.