Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi wfftio’r awgrym fod rhwyg o fewn ei Chabinet yn cymhlethu’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn ystod trafodaethau Brexit.

Dywedodd fod gan ei llywodraeth “amcanion clir” wrth i’r trafodaethau barhau.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson wedi cael ei ffilmio’n dweud y gallai Prydain fod yn cylchdroi o amgylch yr Undeb Ewropeaidd ymhell ar ôl Brexit, ac na fyddai’n rhydd i fasnachu â gwledydd eraill am gryn amser.

Ond dywedodd Theresa May wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Y neges yw fod y Llywodraeth wedi cytuno y cawn ni bolisi masnachu annibynnol.

“Byddwn ni’n rhydd i drafod y cytundebau masnach hynny yng ngweddill y byd.”

Papur gwyn

Dywedodd Theresa May y bydd papur gwyn yn cael ei gyhoeddi ar Orffennaf 9, yn amlinellu uchelgais Llywodraeth Prydain ar gyfer eu perthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Dywedodd na fyddai hi’n derbyn unrhyw ymgais i greu ffin fasnach rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon, gan ddweud y byddai hynny’n “annerbyniol”.