Mae’r tân sydd wedi difrodi Ysgol Gelf hanesyddol Glasgow dros nos yn un llawer gwaeth na’r un a ddigwyddodd yno yn 2014, yn ôl prif weinidog yr Alban.

Dywedodd Nicola Sturgeon y byddai llywodraeth yr Alban yn gwneud popeth a allai i sicrhau dyfodol yr adeilad byd-enwog ar ôl iddo gael ei ddinistro gan dân am yr ail waith mewn pedair blynedd.

Fe fu 120 o ddiffoddwyr tân wrthi am y rhan fwyaf o’r nos ar ôl i’r tân gynnau tua 11.20 neithiwr, ac mae tua 50 yn dal yno i orffen y gwaith o ddiffodd y tân yn llwyr.

“Mae’n dorcalonnus,” meddai Nicola Sturgeon.

“Mae’r tân wedi bod yn llawer, llawer gwaeth na’r un a ddigwyddodd bedair blynedd yn ôl, felly mae’r difrod yn enbyd ac ar raddfa fawr.

“Dw i’n cydymdeimlo â phawb sy’n gysylltiedig â’r Ysgol Gelf a hithau mor agos i gael ei hailagor ar ôl yr holl waith adfer, ond yn talu teyrnged i fedrusrwydd y diffoddwyr tân na chafodd neb eu lladd na’u hanafu neithiwr.”