Fe ddylai’r llywodraethau’r datganoledig gael eu cynnwys mewn trafodaethau masnach wedi Brexit, yn ôl un o weinidogion yr Alban.

Cred Michael Russell, gweinidog Brexit Holyrood, yw y dylai rôl yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon fod “dipyn yn gryfach” wedi i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mae wedi datgelu y bydd Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi ei dadl o blaid hyn, yn fuan.

“Rydyn ni eisiau cytuno ar drefniannau newydd a gwell, fydd yn gweithio i bedair gwlad y Deyrnas Unedig,” meddai wrth siarad mewn digwyddiad yn Nulyn.

Cynlluniau San Steffan

Mae gweinidogion yn San Steffan yn bwriadu cefnu ar y Farchnad Sengl a’r Undeb Dollau wedi Brexit, a’n gobeithio sefydlu trefniant masnach newydd ag Ewrop.

Hefyd, maen nhw’n bwriadu taro bargeinion masnach newydd â dwsinau o wledydd ledled y byd – bargeinion a fydd yn dod i rym wedi i’r cyfnod pontio ôl-Brexit ddod i ben.