“Hen lew truenus” fydd y Deyrnas Unedig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl cyn-weinidog o’r Swyddfa Dramor.
Mae’r Arglwydd George Malloch-Brown bellach yn gadeirydd ar ‘Best for Britain’, ac yn dadlau y bydd gwledydd Prydain yn ddibynnol ar gyn-drefediagaethau yn y dyfodol.
Yn sgil cynhadledd G7 yr wythnos ddiwetha’, mae’r ffigwr yn dadlau bod dylanwad rhyngwladol y Deyrnas Unedig wedi pylu, a bod cysylltiadau â chynghreiriaid wedi gwanhau.
Ac o ystyried hyn i gyd, mae George Malloch-Brown yn dadlau mai’r “unig opsiwn real” yw “aros a brwydro am Ewrop cryfach.”
“Argyfwng”
“Mae Ewrop a’r byd mewn argyfwng,” bydd yn dweud mewn araith yn Rhydychen, ddydd Mercher (Mehefin 13).
“Yn hytrach na rhedeg i ffwrdd o Ewrop, dylwn ddysgu gwir wers ein hanes. Mae yna gyswllt rhwng ein diogelwch a’n ffyniant ni, ac Ewrop.”