Mae 10% o staff bwytai, gwestai a bariau, yn ystyried gadael y Deyrnas Unedig oherwydd Brexit, yn ôl arolwg newydd.

Barn hanner y gweithwyr yw bod gwledydd Prydain wedi troi’n llai croesawgar yn sgil y refferendwm.

A phryder rhai rheolwyr yn y diwydiant yw y gallai llawer o fusnesau gau oherwydd prinder staff.

Yn ogystal, mae dros hanner y rheolwyr yn credu y dylai Llywodraeth San Steffan gynorthwyo’r diwydiant lletygarwch yn dilyn Brexit, yn ôl adroddiad cwmni Planday.  

“Sefydlu teyrngarwch”

“Mae’r canfyddiadau yma yn dangos dyfnder ac effaith posib Brexit ar economi’r Deyrnas Unedig,” meddai John Coldicutt, prif swyddog masnachol Planday.

“Mae’n bwysicach nag erioed bod rheolwyr yn sicrhau bod ganddyn nhw’r isadeiledd iawn er mwyn cysylltu â’u gweithwyr, a sefydlu teyrngarwch go iawn.”

Cafodd 400 o weithwyr a 260 o reolwyr o’r diwydiant lletygarwch eu holi.