Mae gardd goffa wedi cael ei hagor i dalu teyrnged i’r rhai fu farw yn y tân yn Nhŵr Grenfell fis Mehefin y llynedd.

Cafodd 72 o bobol eu lladd yn y tân ar Fehefin 14, 2017 ac mae’r ardd yn Notting Dale yng nghysgod y tŵr yng ngorllewin Llundain.

Ymunodd Maer Llundain, Sadiq Khan ac Esgob Llundain, Y Gwir Barchedig Sarah Mullally â thrigolion lleol ar gyfer y seremoni i agor yr ardd yn swyddogol.

Talodd teulu un o’r rhai fu farw bron i £10,000 am yr ardd sy’n cynnwys symbolau crefyddol amrywiol i adlewyrchu natur y gymuned leol. Bydd y teulu hwnnw hefyd yn talu i gynnal a chadw’r ardd.

Dywedodd Sadiq Khan fod yr ardd yn un sy’n llawn “heddwch, gwellhad a chyfiawnder”.