Mae disgwyl i’r heddlu ddechrau defnyddio peiriant newydd ar ymyl y ffordd i gynnal profion a fydd yn gallu cael eu defnyddio fel tystiolaeth o yfed a gyrru.

Ar hyn o bryd, mae prawf positif yn arwain at ddwyn gyrrwr i’r ddalfa dan amheuaeth o yfed a gyrru, ac mae ail brawf yn cael ei gynnal yng ngorsaf yr heddlu.

Mae’r profion ar hyn o bryd yn galluogi gyrrwr sydd ychydig bach dros y trothwy i sobri cyn cynnal yr ail brawf.

Ond o dan gynlluniau newydd, mae Llywodraeth Prydain wedi neilltuo £350,000 i gynnal cystadleuaeth er mwyn dod o hyd i beiriant symudol newydd.

Y gred yw y bydd y peiriant newydd yn cael ei ddefnyddio ar ymyl y ffordd erbyn 2020.