Mae’r ‘Bond Girl’ gyntaf un, Eunice Gayson wedi marw’n 90 oed, yn ôl ei thudalen Twitter.

Ymddangosodd hi yn y ffilmiau ‘Dr No’ a ‘From Russia With Love’, gan chwarae rhan y cymeriad Sylvia Trench ochr yn ochr â Sean Connery.

Bu farw ddoe, yn ôl y neges ar y wefan gymdeithasol, sy’n dweud ei bod hi’n “ddynes anhygoel oedd wedi creu argraff hirdymor ar bawb y cyfarfu â nhw”.